Watch: Cost-of-living crisis: How to protect people’s health and save lives
Over the last year, there has been a 69 per cent rise in the number of people experiencing food insecurity in Wales, and a 50 per cent rise in the number of people falling behind paying a bill.
Chaired by Jan Williams OBE, chair of Public Health Wales, we considered the impact that the cost-of-living crisis is already having, and will have going forwards, on people’s health and wellbeing across Wales.
Dr Sumina Azam, Public Health Wales, provided an overview of the findings from their recent report, Cost of living crisis: a public health emergency, Helen Twidle provided insight from Age Cymru about the impact that the cost of living is having on older people’s health and wellbeing and Dr Daniel Roberts highlighted the support Cwmpas provides community groups, enterprise and public sector organisations in Wales.
Following the presentation, there was a Q&A, chaired by Jan Williams.
If you have any queries please email Sandra at sandra.cummings@welshconfed.org.
The event was recorded, please follow the link to our YouTube channel.
Chair:
- Jan Williams OBE, Chair, Public Health Wales NHS Trust
Speakers:
- Dr Sumina Azam, Consultant in Public Health Medicine, Head of Policy, Deputy Director Policy and International Health, WHO Collaborating Centre on Investment for Health & Well-being, Public Health Wales NHS Trust
- Helen Twidle, Health and Social Care Policy and Campaigns Officer, Age Cymru
- Dr Daniel Roberts, Policy and Research Officer, Cwmpas
- Peter Matejic, Head of Analysis, Joseph Rowntree Foundation
Yr argyfwng costau byw: sut i ddiogelu iechyd pobl ac achub bywydau
Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafwyd cynnydd o 69 y cant yn nifer y bobl sydd yn profi ansicrwydd bwyd yng Nghymru, a chynnydd o 50 y cant yn nifer y bobl sydd ar ei hôl hi yn talu bil.
Bydd y digwyddiad hwn, fydd yn cael ei gadeirio gan Jan Williams OBE, cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ystyried yr effaith y mae’r argyfwng costau byw yn ei gael ac y bydd yn ei gael ar iechyd a llesiant pobl ar draws Cymru a bydd yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru eu hystyried.
Bydd amrywiaeth o siaradwyr yn trafod y blaenoriaethau allweddol iddyn nhw mewn perthynas â’r argyfwng costau byw, y dystiolaeth y maent eisoes yn ei chanfod yn ymwneud â’r effaith ar bobl yng Nghymru a beth ddylai’r blaenoriaethau allweddol fod i Lywodraeth.
Bydd Dr Sumina Azam, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau eu hadroddiad diweddar, Argyfwng costau byw: argyfwng iechyd cyhoeddus, bydd Helen Twidle yn rhoi mewnwelediad gan Age Cymru am yr effaith y mae costau byw yn ei gael ar iechyd a llesiant pobl hŷn a bydd Dr Daniel Roberts yn amlygu’r cymorth y mae Cwmpas yn ei roi i grwpiau cymunedol, sefydliadau menter a’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Ar ôl y cyflwyniad, bydd sesiwn Holi ac Ateb, wedi ei chadeirio gan Jan Williams. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y digwyddiad gan ddefnyddio’r swyddogaeth sgwrsio, neu gallwch anfon unrhyw gwestiynau i mewn ymlaen llaw.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, ebostiwch Sandra yn sandra.cummings@welshconfed.org.
Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio ar gyfer y rheiny sydd yn methu mynychu ar y diwrnod.
Os ydych ar Twitter, tagiwch ni gan ddefnyddio @WelshConfed a’r hashnod #WellbeingforWales.
Cynhelir y digwyddiad ar Zoom a chaiff ei recordio a’i rannu ar sianel YouTube Conffederasiwn GIG Cymru, ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cylchlythyr.
Cadeirydd:
- Jan Williams OBE, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Siaradwyr:
- Dr Sumina Azam, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd, Pennaeth Polisi, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol WHO ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Helen Twidle, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Age Cymru
- Dr Daniel Roberts, Swddog Ymchwil a Pholisi, Cwmpas
- Peter Matejic, Pennaeth Dadansoddi, Joseph Rowntree Foundation