Partneriaeth sy’n galluogi Cymru i arwain y ffordd ar y celfyddydau ac iechyd
Adnewyddu partneriaeth genedlaethol sy'n hwyluso mentrau celfyddydol ac iechyd i wella bywydau a lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal.
Chwe blynedd ers llofnodi’r un cyntaf, mae Conffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi adnewyddu eu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i wella ymwybyddiaeth o’r buddion y gall y celfyddydau eu cael ar iechyd a lles ac i greu Cymru fwy cyfartal, diwylliannol a chynaliadwy.
Mae'r bartneriaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol yn y gorffennol, gydag astudiaeth fyd-eang ar y celfyddydau ac iechyd, a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lancet, yn dweud “y memorandwm hwn yw un o’r ymrwymiadau mwyaf cadarn i ni ddod ar ei draws, o ran y dull rhyng-sectoraidd a'r buddsoddiad a'r gweithredu penodol”.
Cafwyd tystiolaeth bellach o'r gydnabyddiaeth hon yr wythnos ddiwethaf gan adroddiad pwysig a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Creadigol a’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar y Celfyddydau, Iechyd a Lles, yr Adolygiad Iechyd Creadigol: Sut gall Polisi Gofleidio Iechyd Creadigol. Mae'r adroddiad pwysig yn ychwanegu at dystiolaeth gynyddol fod “angen i iechyd creadigol fod yn rhan annatod o system iechyd a gofal cymdeithasol yr 21ain ganrif i leihau anghydraddoldebau iechyd, cynyddu disgwyliad oes a meithrin cyfalaf cymdeithasol”.
Mae’r adroddiad yn cynnwys tystiolaeth o arferion gorau wrth Conffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, gan dynnu sylw at y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sy'n galluogi meithrin gallu celfyddydol ac iechyd ar lefel genedlaethol. Mae rhaglen meithrin gallu celfyddydol ac iechyd wedi cyflwyno a datblygu rolau cydlynwyr celfyddydau ac iechyd ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, ac ers hynny, wedi'i chyflwyno yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Canfu adolygiad o’r rhaglen yng Nghymru, a gyhoeddwyd y llynedd, dystiolaeth fod rolau celfyddydau ac iechyd o fewn y GIG yn gwella iechyd a lles cleifion, staff a'r boblogaeth ehangach. Wrth symud ymlaen, mae'r rhaglen yn gobeithio gwreiddio’r model ymhellach i fod yn ymrwymiad prif ffrwd yng nghynllun strategol hirdymor y GIG a pholisi Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Emma Woollett, cadeirydd Conffederasiwn GIG Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o barhau â'n perthynas gref â Chyngor Celfyddydau Cymru ac i lofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn am y trydydd tro, sy’n llawer mwy na chytundeb ysgrifenedig. Mae wedi ein galluogi i weithredu mewn partneriaeth, gan arwain at ganlyniadau diriaethol y profwyd yn annibynnol eu bod yn gwella profiadau cleifion a staff ac iechyd a lles y boblogaeth.
“I wynebu'r heriau aruthrol sy'n wynebu'r system iechyd a gofal yng Nghymru, rhaid i ni feddwl yn fwy holistig ac yn ehangach na thriniaeth glinigol draddodiadol o afiechyd. Mae atal yn allweddol i iechyd a lles ein cymdeithas nawr ac yn y dyfodol, ac mae’r rhaglenni sy’n deillio o’r bartneriaeth hon yn arloesol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.”
Dywedodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Rydyn ni’n hynod o falch o bopeth y mae ein partneriaeth gyda Conffederasiwn GIG Cymru wedi’i gyflawni yn ystod y 6 blynedd ddiwethaf, ac rydyn ni’n awyddus i adeiladu ar y momentwm hwn a gwneud cynnydd wrth symud ymlaen.
“Ymhlith y dystiolaeth gynyddol o fuddion y celfyddydau a chreadigrwydd ar ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol, mae’r bartneriaeth arloesol hon wedi helpu i lywio datblygiad y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Mae ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diweddaraf yn fwy na geiriau ar bapur, mae’n ymrwymiad o’r newydd i ehangu’r gweithredu ar y cyd wrth i ni lywio cam nesaf y twf creadigol ar draws y GIG yng Nghymru – gan gefnogi agwedd holistig tuag at iechyd a lles y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni.”
About us
We are the membership organisation that brings together, supports and speaks for the whole healthcare system in England, Wales and Northern Ireland. The members we represent employ 1.5 million staff, care for more than 1 million patients a day and control £150 billion of public expenditure. We promote collaboration and partnership working as the key to improving population health, delivering high-quality care and reducing health inequalities.