Briefing

Gwerthfawrogi, Ymgysylltu a Chyflawni: Cynnal system iechyd a gofal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Cyn etholiadau’r Senedd yn 2021, rydym wedi gofyn am farn ein haelodau ac wedi nodi eu gweledigaeth ar gyfer y system iechyd a gofal yng Nghymru.

24 September 2020

Read Gwerthfawrogi, Ymgysylltu a Chyflawni External link icon

Conffederasiwn GIG Cymru yw’r unig gorff aelodaeth sydd yn cynrychioli’r holl sefydliadau sydd yn ffurfio’r GIG yng Nghymru: y saith Bwrdd Iechyd Lleol, tair Ymddiriedolaeth y GIG ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae’r briff hwn yn cyflwyno ein galwadau ar gyfer yr etholiad a’r ffordd y gall pleidiau gwleidyddol, etholwyr a’n partneriaid ddod ynghyd i fynd i’r afael â’r prif heriau y mae’r system gofal ac iechyd yn eu hwynebu a chyflawni’r weledigaeth a gyflwynir gan arweinwyr y GIG. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni werthfawrogi’r gweithlu, ymgysylltu’r cyhoedd a chyflwyno gwasanaethau ar draws y system.