Gwerthfawrogi, Ymgysylltu a Chyflawni: Cynnal system iechyd a gofal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Conffederasiwn GIG Cymru yw’r unig gorff aelodaeth sydd yn cynrychioli’r holl sefydliadau sydd yn ffurfio’r GIG yng Nghymru: y saith Bwrdd Iechyd Lleol, tair Ymddiriedolaeth y GIG ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Cyn etholiadau’r Senedd yn 2021, rydym wedi gofyn am farn ein haelodau ac wedi nodi eu gweledigaeth ar gyfer y system iechyd a gofal yng Nghymru. Mae’r briff hwn yn cyflwyno ein galwadau ar gyfer yr etholiad a’r ffordd y gall
pleidiau gwleidyddol, etholwyr a’n partneriaid ddod ynghyd i fynd i’r afael â’r prif heriau y mae’r system gofal ac iechyd yn eu hwynebu a chyflawni’r weledigaeth a gyflwynir gan arweinwyr y GIG. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni werthfawrogi’r gweithlu, ymgysylltu’r cyhoedd a chyflwyno gwasanaethau ar draws y system.
Fel rhan o ddatblygu ein galwadau, cynhaliwyd arolwg ym mis Rhagfyr 2019 gyda’n haelodau – arweinwyr y GIG ar draws Cymru, yn cynnwys Cadeiryddion, Is-gadeiryddion, Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr Gweithredol – i nodi’r hyn sydd yn bwysig iddyn nhw.
Cyn pandemig COVID-19 hyd yn oed, roedd yn amlwg y byddai iechyd a gofal cymdeithasol yn destun canolog cyn etholiad y Senedd. Fel yr amlygir yn Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, mae’r system iechyd a gofal yng Nghymru, fel gweddill y DU, yn wynebu cryn dipyn o heriau. Yn arolwg yr etholiad, nododd
aelodau’r prif heriau canlynol ar gyfer y GIG yng Nghymru:
- Recriwtio a chadw’r gweithlu;
- Diffyg integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol;
- Yr angen i gefnogi poblogaeth sy’n heneiddio;
- Cyllid a phwysau cost; a
- Heriau’n ymwneud â chyflymder newid ac ailddylunio gwasanaethau.
Er gwaetha’r heriau hyn, mae nifer o alluogwyr ac atebion y mae arweinwyr y GIG yn eu cyflwyno er mwyn trawsnewid gwasanaethau, yn cynnwys:
- Parhau i weithredu gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol fel yr
- argymhellir yn yr Adolygiad Seneddol;
- Gweithio’n gydweithredol ar draws ffiniau sefydliadol;
- Cyflwyno arweinyddiaeth drugarog ar draws pob sector;
- Datblygu canlyniadau poblogaeth a llesiant ar draws iechyd a gofal cymdeithasol;
- Cael cynllun ariannol hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol;
- Cyflawni cymorth clinigol a chyhoeddus ar gyfer newid; a
- Sefydlu trefniadau llywodraethu i wella’r broses o wneud penderfyniadau yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae llawer o’r atebion hyn eisoes wedi dod i’r amlwg o’r ymateb i bandemig COVID-19. Mae COVID-19 wedi newid y GIG a gofal cymdeithasol, gan gyflwyno trawsnewid cyflym mewn cyfnod o bwysau aruthrol a heriau personol a phroffesiynol. Bydd y pandemig yn cael effaith sylweddol ar ddyfodol y boblogaeth, cymdeithas a gwasanaethau. Yn ogystal, dyma fydd etholiad cyntaf y Senedd gyda’r DU allan o’r Undeb Ewropeaidd, fydd yn nodi perthynas ryngwladol a thirwedd wleidyddol wahanol iawn.
Yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd, mae’n bwysig cael trafodaeth adeiladol yn ymwneud â’r atebion sydd yn angenrheidiol i weithredu’r weledigaeth ar gyfer y system iechyd a gofal ymhellach. Rydym yn galw ar yr holl bleidiau gwleidyddol a’r ymgeiswyr i chwarae rôl arwain a sicrhau bod y drafodaeth yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn seiliedig ar ansawdd, ataliaeth, gwasanaethau cymunedol a chydweithredu ar draws system gyfan.
Mae pawb yng Nghymru eisiau system iechyd a gofal gynaliadwy a hyfyw sydd yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd Conffederasiwn GIG Cymru yn parhau i gynrychioli safbwyntiau ein haelodau yn y drafodaeth ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r holl bleidiau gwleidyddol a’r ymgeiswyr.