Mae popeth yn effeithio ar iechyd: Diweddariad i’n briff Cofiwch y bwlch: beth sy’n atal newid?
Y straeon y tu ôl i’r ystadegau
Yn y briff hwn rydym wedi casglu straeon sy’n disgrifio’r ffordd y mae sefydliadau ar draws Cymru yn gweithio i leihau tlodi, salwch ac anghydraddoldebau trwy chwalu rhwystrau ar draws iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, cyngor ar fudd-daliadau a lles, trafnidiaeth, unigrwydd ac ynysu, newid hinsawdd, llygredd aer a llawer mwy. Darllenwch ymlaen i ddysgu am y straeon y tu ôl i’r ystadegau.
Gweithredu gwaith traws-sector: sut mae sefydliadau ar draws Cymru’n gweithio i leihau tlodi, salwch ac anghydraddoldebau.
Mae’r set yma o astudiaethau achos yn disgrifio’r ffordd y mae sefydliadau ar draws Cymru’n gweithio ar draws ffiniau a chyfyngiadau i helpu’r bobl fwyaf aogred i niwed yn ein cymdeithas. Dylid annog a chefnogi’r gwaith traws-sector yma gan lywodraeth Cymru gyda chynllun gweithredu trawslywodraethol.
“Mae arbenigedd [yn gwella iechyd y boblogaeth] yn bodoli ar draws amrywiaeth o bobl – yn arbennig profiad bywyd cymunedau, mewnwelediadau pwerus y sector gwirfoddol, sgiliau technegol timau iechyd cyhoeddus, a mewnwelediadau gan dimau data a deallusrwydd ar draws amrywiaeth o sefydliadau partner.”
Cronfa’r Brenin