Polisi mudo’r DU a'r gweithlu gofal cymdeithasol a GIG Cymru
Comisiynwyd gan Gydffederasiwn GIG Cymru
Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi effeithiau’r rheolau mewnfudo arfaethedig newydd ar y gweithlu gofal cymdeithasol a GIG Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig bod system fewnfudo newydd sy’n seiliedig ar bwyntiau yn dod i rym pan fydd Cyfnod Pontio'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Prif effaith y system newydd fydd rhoi statws cyfartal i fewnfudwyr o'r UE a mewnfudwyr o’r tu allan i'r UE ac i roi diwedd ar ryddid llafur i symud i'r UE ac oddi yno.
I gael Visa Gweithiwr Medrus, mae’r rheolau newydd yn ei gwneud yn ofynnol bod gan bob mudwr o’r tu allan i’r DU swydd â sgiliau priodol, sydd fel arfer yn talu o leiaf £25,600 y flwyddyn.
Mae Visa Iechyd a Gofal newydd wedi cael ei gynnig, sy’n golygu y bydd y trothwy cyflog yn cael ei osod ar raddfa gyflog briodol y GIG ar gyfer galwedigaethau penodol – mewn geiriau eraill, gall y GIG gyflogi gweithwyr o'r tu allan i'r DU i lenwi’r swyddi hyn heb iddynt gyrraedd y trothwy cyflog cyffredinol.
Mae ein dadansoddiad wedi canfod bod y rhan fwyaf o’r gwladolion o'r tu allan i'r DU sy’n gweithio yn GIG Cymru yn gymwys i gael Visa Gweithiwr Medrus a/neu Visa Iechyd a Gofal o dan y rheolau arfaethedig. Fodd bynnag, ni fyddai rhai o wladolion yr UE yn gymwys, ac awgrymir y bydd hyn yn cael effaith fach ond arwyddocaol ar recriwtio yn y dyfodol.
Mae’r goblygiadau ar gyfer gofal cymdeithasol yn fwy difrifol. Bydd llai o swyddi yn gymwys ar gyfer y Visa Gweithiwr Medrus neu'r Visa Iechyd a Gofal, ac mae’r trosiant staff uwch yn y sector yn cyflwyno heriau penodol; a fydd yn debygol o gael sgil-effeithiau ar y GIG.
Mae llawer o rolau gofal cymdeithasol hanfodol wedi cael eu heithrio o’r Visa Iechyd a Gofal ac o’r Rhestr o Alwedigaethau lle mae Prinder oherwydd eu bod wedi cael eu labelu’n swyddi ‘sgiliau isel’. Mae’r swyddi hyn yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau ac ni ddylid eu hanghofio wrth ystyried y rheolau newydd a'u cwmpas.
Mae’n ymddangos bod GIG Cymru mewn sefyllfa dda i gefnogi gweithwyr mudol yn y dyfodol drwy'r system newydd, gyda pherthnasoedd da a safbwyntiau a rennir ar draws sefydliadau GIG Cymru o ran cymorth i weithwyr mudol a systemau di-dor.
Mae'r system wedi ymdopi’n dda yn ystod y broses o roi Cynllun Statws Preswylydd Sefydlog yr UE ar waith ac mae’n hanfodol ei bod yn ymdopi’n dda yn ystod cyfnod pontio'r UE.
I hwyluso recriwtio yn y dyfodol, dylid rhoi blaenoriaeth i ehangu cymhwysedd y Visa Iechyd a Gofal i gynnwys galwedigaethau sy’n bwysig yn y sector gofal cymdeithasol; neu, os na ellir gwneud hynny, ehangu’r Rhestrau o Alwedigaethau lle mae Prinder