Adeiladu iechyd a lleisiant y genedl
Pum blaenoriaeth arweinwyr y GIG ar gyfer Lywodraeth nesaf Cymru.
English version available here.
18 March 2025
Ein cenhadaeth yw adeiladu iechyd a llesiant y genedl gyda chefnogaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel a dull a arweinir gan bartneriaeth o ymdrin ag iechyd a llesiant y boblogaeth sy’n cwmpasu’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ganolbwyntio ar bum maes trawsnewid:
O drin salwch > i atal ac ymyrraeth gynnar
Bydd hyn yn symud y ffocws oddi wrth drin salwch yn unig tuag at hybu iechyd a llesiant, lleihau anghydraddoldebau a mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd, hybu twf economaidd a chefnogi pobl i fod yn bartneriaid gweithredol o ran eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.
O atebion tymor byr > i gynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor
Bydd hyn yn galluogi gweithredu gweithlu aml-broffesiynol sydd wedi’i alluogi’n ddigidol, sy’n llawn cymhelliant, sy’n ymgysylltu ac sy’n cael ei werthfawrogi ar draws y GIG a gofal cymdeithasol.
O ganolbwyntio ar ysbytai > i ofal sylfaenol a gwasanaethau yn y gymuned
Dylai’r fframwaith hwn bwysleisio atal, triniaeth effeithiol a chymorth amserol i unigolion, a dylai gael ei fesur yn gyson ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, cefnogi modelau gofal cydgysylltiedig a darparu gofal yn nes at y cartref.
O ansefydlogrwydd mewn gofal cymdeithasol > i system gofal cymdeithasol cynaliadwy
Rhaid i’r adolygiad fynd i’r afael â heriau system gyfan a sefydlogi’r system gofal cymdeithasol drwy gyllid ac adnoddau cynaliadwy. Rhaid iddo hefyd ystyried tâl ac amodau’r gweithlu, mynediad at ofal a ariennir yn gyhoeddus a thryloywder a chysondeb o ran casglu ac adrodd ar ddata gofal cymdeithasol.
O offer ac adeiladau sydd wedi dyddio > i seilwaith addas i’r diben
Buddsoddi yn holl seilwaith y GIG a gofal cymdeithasol, gan gynnwys adeiladau, offer a seilwaith digidol; ond hefyd trwy drosoli datblygiadau technolegol ac ymchwil gan gynnwys genomeg a deallusrwydd artiffisial. Bydd hyn yn galluogi’r GIG a gofal cymdeithasol i ysgogi effeithlonrwydd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd wrth wella canlyniadau cleifion a’r amgylchedd gwaith ffisegol i staff.
English version available here.