Adroddiad newydd yn dangos bod swyddi celfyddydol ac iechyd o fewn y GIG yn gwella lles cleifion a staff
Cadarnhaodd adroddiad newydd heddiw fod menter flaenllaw y celfyddydau ac iechyd wedi helpu i wella iechyd a lles cleifion y GIG, staff a'r boblogaeth ehangach.
Cyflwynodd y Rhaglen Adeiladu Gallu ymhlith Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd swyddi cydlynu ym maes y celfyddydau ac iechyd ym mhob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.
Ymhlith y llwyddiannau niferus a amlygwyd yn y gwerthusiad dros dro* mae prosiectau sy'n cefnogi pobl hŷn sydd mewn perygl o syrthio, plant a phobl ifanc sy'n byw gydag anhwylderau bwyta, oedolion sy’n profi unigrwydd ac unigedd, a staff y GIG sydd wedi profi trawma.
Roedd y rhaglen wedi’i sefydlu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2018 o ganlyniad i dystiolaeth gynyddol o'r effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael ar iechyd a lles. Gwahoddwyd pob bwrdd iechyd i wneud cais am dair blynedd o gyllid hedyn, gyda'r nod y gallai’r swyddi fynd yn rhai parhaol gydag arian y GIG. Lle roedd swyddi cydlynwyr y celfyddydau ac iechyd eisoes yn bodoli, roedd y rhaglen yn cynnig cyfle i fyrddau iechyd gynyddu eu gallu a'u cyrhaeddiad drwy ehangu eu tîm ym maes y celfyddydau ac iechyd.
Er bod byrddau iechyd i gyd ar wahanol gyfnodau ar eu taith gelfyddydol ac iechyd, mae adroddiad heddiw yn dangos tystiolaeth o gyfraniad cadarnhaol y swyddi at iechyd corfforol a meddyliol cleifion a'r boblogaeth yn ehangach ar wahanol gamau o'u gofal - o atal salwch hyd at driniaeth ac adferiad – yn ogystal ag at les y staff.
Mae canfyddiadau'n dangos bod y rhaglen wedi codi hygrededd y celfyddydau ac iechyd ar draws y system iechyd a gofal, gan arwain at ddarparu gweithgareddau ym maes y celfyddydau ac iechyd o ansawdd da a helpu i ddatblygu strategaethau ym maes y celfyddydau ac iechyd mewn rhai byrddau iechyd a chefnogi blaenoriaethau'r byrddau iechyd.
Meddai Dr Clive Grace OBE, o Wasanaethau Ymchwil ac Ymgynghori y Deyrnas Unedig: "Roeddem yn falch iawn o gynnal y gwerthusiad oherwydd bod tystiolaeth sylweddol eisoes yn dangos bod gwerth o ran cyd-weithio rhwng y Celfyddydau ac Iechyd i allu cynhyrchu gwerth mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd. Fodd bynnag, mae dod o hyd i ffyrdd o ysgogi a lluosi'r gwerth hwnnw'n fater arall, ac un sy'n dibynnu ar saernïo ymyrraeth sy'n gweddu i'r GIG yng Nghymru, a'r ffordd y mae'n gweithio, wrth gyflawni manteision creadigrwydd ac o gynnig profi’r Celfyddydau yn eu holl ffurfiau."
Dywedodd Nesta Lloyd–Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cydffederasiwn GIG Cymru: "Mae'r adroddiad gwerthuso yn dystiolaeth o'r swyddogaeth hollbwysig mae cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd yn ei chwarae i gefnogi iechyd a lles y bobl yng Nghymru.
"Mae Cymru'n arwain y ffordd o ran gwreiddio'r celfyddydau ar draws y gwasanaeth iechyd, gyda dealltwriaeth gynyddol o'r effaith y gall y celfyddydau ei chael wrth wella canlyniadau iechyd, gwrthsefyll anghydraddoldeb a chynyddu ymgysylltiad cymdeithasol.
"Mae arweinwyr y GIG yn cydnabod bod angen i'r celfyddydau fod yn rhan o'r ateb wrth ymateb i'r gofynion ar draws y system yn awr ac yn y dyfodol. Rhaid i ni weithio gyda phartneriaid ar draws ffiniau'r sector i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn".
Meddai Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant yng Nghyngor Celfyddydau Cymru: "Mae cael cydlynydd y Celfyddydau ac Iechyd ym mhob bwrdd iechyd yn ased unigryw i'r GIG yng Nghymru ac yn un sy'n haeddu cael ei hyrwyddo a'i sicrhau yn y dyfodol. Mae cydlynwyr mewn sefyllfa berffaith i ddeall blaenoriaethau iechyd presennol ac ymateb gyda gweithgareddau sy'n cefnogi iechyd a lles cleifion, staff a chymunedau.
"Rydym am ddiolch yn arbennig i'r cydlynwyr celfyddydau ac iechyd am eu hymrwymiad gwych a'u gwaith arloesol wrth i ni ystyried argymhellion yr adroddiad i gryfhau'r rhaglen ymhellach. Mae'r adroddiad hwn yn ein hysbrydoli i archwilio gyda phartneriaid yn ein byrddau iechyd sut y gallwn yn awr brif ffrydio'r swyddi hyn fel swyddi parhaol yn y GIG fel y gall y celfyddydau wneud y cyfraniad mwyaf grymus posibl at iechyd a lles pobl ledled Cymru."
Gellir gweld 'Gwerthuso Rhaglen Adeiladu Gallu ymhlith Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd' yn llawn yma.
* Comisiynwyd y Gwerthusiad o’r Rhaglen Adeiladu Gallu ymhlith Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd gan Gydffederasiwn GIG Cymru, yn sgil grant a dderbyniwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chynhaliwyd y gwerthusiad gan Wasanaethau Ymchwil ac Ymgynghori y Deyrnas Unedig.
Ystyriodd Cydffederasiwn GIG Cymru nifer o werthuswyr posibl cyn dewis Gwasanaethau Ymchwil ac Ymgynghori y Deyrnas Unedig i gynnal y gwerthusiad oherwydd eu profiad o weithio o fewn y GIG.
About us
We are the membership organisation that brings together, supports and speaks for the whole healthcare system in England, Wales and Northern Ireland. The members we represent employ 1.5 million staff, care for more than 1 million patients a day and control £150 billion of public expenditure. We promote collaboration and partnership working as the key to improving population health, delivering high-quality care and reducing health inequalities.