COVID-19: Sut y mae'r celfyddydau yn cefnogi ymateb iechyd a gofal cymdeithasol Cymru i
![A healthcare worker wearing PPE, adjusting their mask and visor.](/sites/default/files/styles/featured_image_mobile/public/2021-05/Healthcare-worker-mask-visor.jpg?h=56d0ca2e&itok=j-RRrVrV)
Gall mynediad at fentrau ym maes y celfyddydau ac iechyd gael effaith fawr a chadarnhaol ar lesiant corfforol a meddyliol pobl yng Nghymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran datblygu mentrau ym maes y celfyddydau ac iechyd sy'n gwella bywydau'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan gadw pobl yn iach ac yn agos at eu cymunedau am fwy o amser.
Gallai'r achos o COVID-19 fod wedi dadwneud y cynnydd yr ydym wedi'i wneud, ond mae'r GIG ac artistiaid wedi dod at ei gilydd ledled Cymru i sicrhau nad ydym yn colli'r momentwm hwn.