Equal Pay
Equal pay has been a statutory entitlement since 1970, when the Equal Pay Act came into force. The Agenda for Change pay system was introduced in October 2004 to ensure that pay in the NHS was consistent with the requirements of equal pay law.
Agenda for Change and its national job evaluation scheme complies fully with anti-discrimination legislation, as found by the Newcastle employment tribunal judgement in the case of Hartley and others v Northumbria Healthcare NHS Trust and others.
Although the employment tribunal found the scheme to be equal pay compliant, it is important to know that claims can still be brought against organisations locally if it is believed that the scheme has not been implemented correctly, leading to equal pay issues.
Organisations should be aware that equal pay claims can be brought on the grounds of age as well as gender discrimination. The Employment Tribunal and Employment Appeal Tribunal in the case of Power and others vs Pennine Acute Hospitals NHS Trust have issued judgements in such a case.
Cyflog Cyfartal
Bu cyflog cyfartal yn hawl statudol ers 1970, pan ddaeth y Ddeddf Cyflog Cyfartal i rym. Cyflwynwyd system dalu yr Agenda ar gyfer Newid ym mis Hydref 2004 i sicrhau bod cyflog yn y GIG yn gyson â gofynion cyfraith cyflog cyfartal.
Mae Agenda ar gyfer Newid a’i gynllun arfarnu swyddi cenedlaethol yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth gwrth-wahaniaethu, fel y gwelwyd gan ddyfarniad tribiwnlys cyflogaeth Newcastle yn achos Hartley ac eraill yn erbyn Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Northumbria ac eraill.
Er i’r tribiwnlys cyflogaeth ganfod bod y cynllun yn cydymffurfio â chyflog cyfartal, mae’n bwysig gwybod y gellir cyflwyno hawliadau o hyd yn erbyn sefydliadau yn lleol os credir nad yw’r cynllun wedi’i weithredu’n gywir, gan arwain at faterion cyflog cyfartal.
Dylai sefydliadau fod yn ymwybodol y gellir cyflwyno hawliadau cyflog cyfartal ar sail oedran yn ogystal â gwahaniaethu ar sail rhyw. Mae’r Tribiwnlys Cyflogaeth a’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth ynachos Power ac eraill yn erbyn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Aciwt Pennine wedi gwneud dyfarniadau mewn achos o’r fath.