Y GIG yn 75oed: Sut ydyn ni'n diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol?
Adroddiad gan Conffederasiwn GIG Cymru yn galw am sgwrs genedlaethol ar sut rydym yn cyd-gynhyrchu gwasanaeth iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn galw am sgwrs genedlaethol i gyd-gynhyrchu gwasanaeth iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol.
Dylai sgwrs genedlaethol gynnwys:

I’w drafod: Iechyd a llesiant y boblogaeth
Yr ateb: Ail-lunio perthynas y cyhoedd â'r GIG

I'w drafod: Cynnydd mewn eiddilwch a chyflyrau tymor hir
Yr ateb: Mynd â gwasanaethau yn nes at adref

I'w drafod: Targedau perfformiad
Yr ateb: Canlyniadau sy’n seiliedig ar ansawdd sy'n canolbwyntio ar brofiad y claf

I'w drafod: Gweithio mewn seilo ym mhob sector
Yr ateb: Un gwasanaeth cyhoeddus

I'w drafod: Gofal yn y gymuned
Yr ateb: Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol

I'w drafod: Gweithlu iechyd a gofal
Yr ateb: Hyrwyddo llesiant staff a datblygu sgiliau traws-sector

I'w drafod: Anghydraddoldebau a chostau byw
Yr ateb: Dull trawslywodraethol o leihau tlodi ac anghydraddoldebau

I'w drafod: Cael gwerth am arian gan y GIG
Yr ateb: Sicrwydd ariannol hirdymor a buddsoddi yng nghymunedau Cymru

I'w drafod: Ystadau a seilwaith y GIG
Yr ateb: Cynllun buddsoddi cyfalaf i wella profiad y claf, ansawdd y gofal ac effeithlonrwydd ynni

I'w drafod: Effaith newid hinsawdd ar genedlaethau'r dyfodol
Yr ateb: Newid ymddygiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
Cymerwch olwg ar ein ffeithlun.